Dros yr ychydig fisoedd diwethaf rwyf wedi cael y fraint o lunio arddangosfa yn fy rôl fel curadur gwadd ar ran y Museum of Modern Art Machynlleth (MOMA) dan y teitl ‘Rhamantiaeth yn Nhirlun Cymru’. Gyda dros 60 o weithiau’n dyddio o ddiwedd y ddeunawfed ganrif hyd y dydd heddiw, hon yw’r arddangosfa fwyaf sylweddol i MOMA ei chynnal erioed, ac mae hi wedi llwyddo i ddenu mwy o ymwelwyr nag erioed o’r blaen. Os nad ydych wedi ei gweld eto, mae hi ar agor hyd 18fed Mehefin 2016.

Mae’r arddangosfa’n dangos bod Cymru wedi chwarae rôl allweddol yn maes celf y  tirlun rhamantaidd ers y ddeunawfed ganrif. Mae’r erthygl hon yn talu sylw i rai o’r hoff weithiau yn yr arddangosfa y gellir eu gweld ar Art UK, ond mae llawer wedi cael eu rhoi ar fenthyg o gasgliadau preifat, neu maent yn weithiau ar bapur sydd ond yn cael eu gweld yn anaml iawn, neu gan artistiaid nad yw eu gwaith eto’n cael ei gynrychioli’n dda mewn sefydliadau cyhoeddus.

Y Cyfnod Rhamantaidd

Roedd yr artistiaid cynharaf i drin y tirlun mewn modd rhamantaidd, a mynegi eu hymatebion eu hunain iddynt, wedi dod dan ddylanwad Richard Wilson, yr artist o Gymru a aned ym Mhenegoes, rhyw ddwy filltir o dref Machynlleth. Yn ôl John Ruskin, Wilson oedd yr artist cyntaf i gynhyrchu ‘celf tirlun diffuant, wedi’i seilio ar gariad myfyriol o fyd Natur’. Yn yr Eidal, roedd Wilson wedi astudio’r tirlun clasurol delfrydol, ond y mae i’w waith yr arsyllir fwyaf arno yn ôl yng Nghymru rhyw gynhesrwydd a dyfnder llawn mynegiant sy’n wahanol iawn i beintio clasurol neu ddyfrlliw topograffaidd. Mae’r arddangosfa yn cynnwys ei olygfa ef o ddyffryn Mawddach, a ddaw o Orielau Dinas Manceinion, sy’n cymryd mynydd Cadair Idris fel y gwir oddrych, a’i gyflwyno fel gwrthrych o harddwch ac urddas yn ei hawl ei hun.

O ddiwedd y ddeunawfed ganrif ymlaen, daeth Cymru’n atynfa i artistiaid a ddeuai’n bennaf ar ymweliadau o iseldiroedd Lloegr i chwilio am natur wyllt ac am wlad y Prydeinwyr hynafol. Daeth nodweddion syfrdanol Cymru – y mynyddoedd, y rhaeadrau, y mwyngloddiau a’r cestyll adfeiliedig – yn bynciau y gellid eu defnyddio i ystyried themâu megis unigolyddiaeth Prydain, pŵer byd natur, mawredd y Cread, a’r anrhaith a ddaw yn sgil amser.

I lawer o artistiaid ifanc, roedd tirluniau Cymreig o’r fath yn feysydd hyfforddi – yn fannau oedd yn esgor ar weledigaethau artistig personol, arloesol. Daeth J. M. W. Turner i Gymru am y tro cyntaf yn 17 oed, a byddai’n dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn. Âi ar deithiau cerdded ledled y wlad i fraslunio cestyll, abatai, rhaeadrau a chlogwyni, a gallai’n aml deithio rhyw 20 neu 25 milltir y dydd. Mae ei baentiad o Gastell Dolbadarn o 1799–1800, sydd ar fenthyg o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, yn fychan, ond yn dal ei dir: mae’n dywyll, dirgelaidd a dramatig. Mae’n cyflwyno naratif hanesyddol yn erbyn tirlun o bathos – prin y mae modd gweld corff cam Owain Goch, y tywysog canoloesol a lusgwyd gan filwyr i’w garcharu yn Nolbadarn. Mae uchder a phellter y castell yn cael eu gorbwysleisio er mwyn awgrymu unigedd creulon. Dewisodd Turner fersiwn mwy o faint o’r paentiad hwn i gynrychioli ei waith ei hun yng nghasgliad yr Academi Frenhinol.

We are currently unable to display this image due to copyright restrictions

Dolbadarn Castle 1799–1800

Joseph Mallord William Turner (1775–1851)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Ac yntau wedi cael ei fagu yn Norfolk, roedd John Sell Cotman yn 18 oed pan gafodd ei brofiad cyntaf o dirweddau mynyddig, a hynny pan oedd ar daith arlunio yng Nghymru. Cafodd ei gyffroi gan y tywydd gwyllt a’r tir ysgithrog, a dychwelodd ddwy flynedd yn ddiweddarach. Am weddill ei fywyd bu’n ailymweld yn ei ddychymyg, gan greu paentiadau fel yr un a ddaeth o Oriel Gelf Dinas Norwich ar gyfer yr arddangosfa, sef Cadair Idris rhyw 30 mlynedd yn ddiweddarach mewn amser. Er i Cotman ddod yn arwr i’r Modernwyr a oedd – ymhell ar ôl ei farwolaeth – yn adnabod y gwerthoedd haniaethol yn ei arwynebau syml o liw, mae modd gweld y meddwl rhamantaidd yn ei gysgodion-cwmwl dramatig a’i adlewyrchiadau mesmerig.

Cader Idris

Image credit: Norfolk Museums Service

Cader Idris c.1828–1833

John Sell Cotman (1782–1842)

Norfolk Museums Service

Cymru a neo-ramantiaeth

O’r 1920au ymlaen, roedd rhai artistiaid arloesol wedi dechrau croesffrwythloni holl angerdd yr oes Ramantaidd â syniadau modernaidd o giwbiaeth, swrrealaeth, mynegiadaeth a haniaethiad. Roedd y fflach yma o’r hyn y daethpwyd i’w adnabod fel ‘neo-ramantiaeth’ yn aml yn cael ei weld fel ffenomen Seisnig, ond roedd artistiaid Cymreig a’r tirlun Cymreig yn ddi-droi’n-ôl.

Treuliodd Graham Sutherland a John Piper – y ddau artist Prydeinig neo-ramantaidd mwyaf dylanwadol – gyfnodau ffurfiannol yng Nghymru o’r 1930au ymlaen. Trawsnewidiwyd dull Sutherland o beintio ar ôl iddo gael profiad o ‘ddieithrwch gorfoleddus’ ymysg nenlinellau creigiog a dyffrynnoedd cuddiedig sir Benfro, ac ymatebodd mewn arddull newydd oedd yn rhydd a mynegiannol. Yn achos Piper, roedd Cymru’n fan o ddarganfyddiad wrth iddo adael celf haniaethol y tu ôl iddo, a dod o hyd i ddulliau newydd o gyfleu pŵer emosiynol y mynyddoedd a’r henebion. Peintiodd gyfres o ddelweddau o Abaty Llanddewi Nant Hodni yn 1941. Roedd yr abaty, a’i leoliad yng nghanol y Mynyddoedd Duon, wedi hudo artistiaid y cyfnod Rhamantaidd. Dewisodd Piper ddangos yr abaty ei hun, gyda’r arwynebau gweadol a’r lliwiau pefriog oedd yn benthyg presenoldeb pwerus i’r tyrau anferth dan yr awyr fygythiol.

We are currently unable to display this image due to copyright restrictions

Llanthony Abbey 1941

John Piper (1903–1992)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Ymhlith yr ymwelwyr eraill a ymatebodd i’r tirlun Cymreig roedd Ivon Hitchens a Josef Herman, ffoadur a Mynegiadwr, a gyfareddwyd i’r fath raddau gan ‘dristwch a mawredd’ Cwm Tawe fel iddo ymgartrefu yno am 11 mlynedd. Mae un o’i baentiadau mawr, disglair o’r pentref glofaol lle roedd yn byw, a beintiwyd yn 1968 wrth iddo edrych yn ôl, ar fenthyg o Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog.

Gellir hefyd ystyried Ceri Richards a David Jones, dau artist Cymreig, fel cyfranwyr holl bwysig i faes neo-ramantiaeth, a bellach roedd yna genhedlaeth o artistiaid a aned yng Nghymru ac a oedd wedi amsugno agweddau neo-ramantaidd tuag at y tirlun. Caiff John Elwyn ei gynrychioli yn yr arddangosfa gan dri darn o waith gydag un ohonynt, o Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe, yn dirlun o adeiladau fferm a llwybr drwy goed. Drwy gydol ei fywyd bu’n peintio’i atgofion o ffermydd a lonydd dyffryn Teifi, lle cafodd ei fagu. Roedd nifer o’i baentiadau’n mynegi ei hiraeth am dirlun dyddiau ei febyd, ac yn gwahodd y gwyliwr i mewn ar hyd llwybrau’n arwain at ysguboriau gwyngalchog a theisi gwair euraid.  

Drwy gydol ei oes, roedd Bert Isaac wedi ei hudo gan y modd y byddai natur yn dychwelyd i fannau a adawyd yn anghyfannedd, yn enwedig felly tirluniau mwyngloddio adfeiliedig Ceunant Clydach ger ei gartref yn Y Fenni, a chwarel lechi Dorothea ger Caernarfon: mannau lle roedd diwydiant ffyniannus wedi edwino i’r fath raddau fel nad oedd dim ar ôl ohono ond metel rhydlyd, tomenni gwastraff, chwyn a choed ifanc. Yn ei baentiadau byddai’n ymateb i’r tirlun gweledol, ond hefyd – drwy greu marciau haniaethol – yn ymateb i’w synau, ei symudiadau a’i wahanol fathau o egni. Byddai’n dychwelyd dro ar ôl tro yn ei ddychymyg i’r union fannau hyn, wedi ei hudo gan ‘ffiws gwyrdd’ byd natur a’i bwerau i adfer dadfeiliad.

Rhamantiaeth yn ein cyfnod ni

Dros y 30 mlynedd diwethaf mae artistiaid – rhai, yn aml, a chanddynt wybodaeth drylwyr o artistiaid y gorffennol – wedi bod yn archwilio dulliau newydd o ymgysylltu â thirlun Cymru, ac archwilio emosiynau a chysylltiadau. Mae’r dulliau’n fwy amrywiol nag erioed, a’r adnoddau sydd ar gael wedi ehangu o’r dyfrlliw a’r olew traddodiadol i wrthrychau a ddarganfuwyd, celf gosod, testun a fideo digidol. Mae Rhamantiaeth yn fyw ac yn iach, ac yn esblygu.

Yn Taranis (Duw’r Taranau), mae Ifor Davies – yr artist gwleidyddol-ymrwymedig – yn chwilio am ystyr yng nghanol colli ffermydd a chymunedau Cymraeg eu hiaith ar Fynydd Epynt i wneud lle ar gyfer maes tanio milwrol. Nid oes unrhyw beth yn glir yn ei Epynt ef erbyn hyn; anhrefn a dinistr yw’r cyfan, ac uwch ei ben does dim byd ond  gorwel breuddwydiol yn hofran. Aeth yr artist ati i greu’r paentiad yn llythrennol o’r tirlun ei hun, trwy gymysgu pridd coch y mynydd i mewn i’r arwyneb. Mae un ffermdy ar dân, ac eraill yn ddim ond cysgodion bwganllyd o’r hyn a fu; mae amlygiad o dduw taranau’r Celtiaid yn creu delwedd o saethu dryll – ac mae ei enw, Taranis, yn ymddangos ar ffurf graffiti ar draws y cyfansoddiad.

Mae tirwedd ramantaidd yn rhan o’r naratif yng ngwaith Clive Hicks-Jenkins o’i gyfres ‘The Temptations of Solitude’. Roedd hyn yn tynnu ar straeon o fywydau’r Tadau Anial a welir ar allor o’r bymthegfed ganrif yn rhanbarth Tysgani, Yr Eidal, gan eu gosod mewn mannau annhebygol yng Nghymru – strydoedd, tomenni slag neu randiroedd i dyfu llysiau. Mae’r straeon yn cynnwys elfennau o arswyd ysbrydol neu gyfyng-gyngor, a’r rheiny’n cael eu chwyddo gan Hicks-Jenkins trwy ei ddefnydd o leoliad. Dewisodd leoli ei baentiad hunllefus, o lewes yn ymosod ar ddyn, ar glogwyn uwchben porthladd Amlwch. Mae’r cei a’r goleudy, y llofft hwyliau a’r simneiau, i gyd yno, ond mae anghenfil yr artist yn debycach i fôr-fwystfil nag i lewes ac, fel y gallai Sutherland neu Piper fod wedi ei wneud o bosib, mae wedi lliwio Amlwch yn goch dwfn, lliw gwaed.

Symudodd y diweddar Maurice Cockrill drwy nifer o gyfnodau gwahanol o ran arddull, ond byddai’n dychwelyd dro ar ôl tro i stiwdio ger Conwy, ac yn ail-fyw ei atgofion o dyfu i fyny yn ardal maes glo gogledd Cymru. Roedd ei baentiadau hylifol, lled-haniaethol, yn ennyn atgofion o fyd natur, yr elfennau, taith afon Conwy i’w llawn dwf, a’r creithiau mae pobl yn eu torri i mewn i’r tir. Mae drama rewedig ei baentiad Lloc Bychan, o Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, yn dwyn i gof gelf neo-Ramantaidd yr 1930au a’r 1940au, er enghraifft y paentiadau o frwydr yn yr awyr gan Paul Nash, neu dirluniau apocalyptaidd sir Benfro gan Sutherland.

We are currently unable to display this image due to copyright restrictions

Small Enclosure

Maurice Cockrill (1936–2013)

Newport Museum and Art Gallery

Mae Glenys Cour, â sensitifrwydd rhyfeddol, yn mynegi rhinweddau Penrhyn Gŵyr, yr ardal ble mae hi’n byw ac yn parhau i beintio a hithau’n 92 oed. Mae hi’n dod o hyd i ddrama ysgogol mewn awyr, môr a thirluniau. Mae cylchredau a thymhorau’n fythol-bresennol yn ei myfyrdodau, gyda llawer ohonynt yn dwyn i gof y wawr neu’r fin nos, pan fydd dirgelion Gŵyr yn dwysáu dan effaith cysgodion neu orchudd o niwl.

Gallai fod sawl rheswm dros y grym lle sy’n perthyn i Gymru. Mae ei thirluniau’n ddyrys ac amrywiol, a’i mynyddoedd garw yn cyfleu egni anferthol byd natur. Mae Cymru’n mwynhau diwylliant barddol ac etifeddiaeth o chwedlau, lle mae mwy nag un ystyr i bopeth – fel sy’n digwydd mewn cymaint o’r hyn sy’n rhamantaidd – ac nid oes unrhyw beth yn union fel yr ymddengys. Ond, yn fwy na dim, mae yno wybodaeth am draddodiad pwerus o dirlun rhamantaidd sydd wedi parhau am ryw 250 o flynyddoedd.

Dr Peter Wakelin, Curadur Gwadd

Roedd yr arddangosfa 'Rhamantiaeth yn Nhirlun Cymru' yn MOMA Machynlleth rhwng 19eg Mawrth a 18fed Mehefin 2016