‘Does ond un ystum sy’n addas i artist yn unrhyw le, ac ar ei draed mae hynny.’ – Dylan Thomas

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ar 1af Mawrth – ac, yn sgil hynny, i ddathlu popeth Cymreig – dyma i chi ddetholiad o artistiaid anhygoel sy’n dod o Gymru.

  1. Richard Wilson

We are currently unable to display this image due to copyright restrictions

A View on the River Dee with Anglers c.1770

Richard Wilson (1713/1714–1782)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Mae’n bosibl mai Richard Wilson (1713/1714–1782) oedd yr artist tirluniau pwysig cyntaf ym Mhrydain – ac roedd e’n Gymro! Gyda’i waith fe lwyddodd i drawsnewid tirlun o fod yn gelfyddyd a oedd, yn ei hanfod, yn dopograffaidd, i un a allai gludo syniadau ac emosiynau. Câi Wilson ei edmygu’n fawr gan artistiaid mwy diweddar, megis CromeConstable a Turner.

Ysgrifennodd John Ruskin, y beirniad celf o Oes Fictoria: ‘gyda Richard Wilson, mae hanes celf tirlun diffuant wedi’i seilio ar gariad myfyriol o fyd natur yn cychwyn yn Lloegr’ (bydd raid i ni faddau i Ruskin, gan nad oedd e fel petai’n gwybod y gwahaniaeth rhwng Lloegr a Chymru...)

  1. Thomas Jones

Buildings in Naples

Buildings in Naples 1782

Thomas Jones (1742–1803)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Cafodd Thomas Jones (1742–1803) ei addysgu gan Richard Wilson. Peintiodd rai tirluniau clasurol, uchelgeisiol i efelychu Wilson, ond mae’n fwyaf adnabyddus am y brasluniau mewn olew a grëwyd ganddo yn Naples a Rhufain yn y cyfnod 1776-1783; mae’r rhain ymhlith yr enghreifftiau Prydeinig cyntaf o’r math yma o fraslun awyr-agored. Ychydig iawn o beintio a wnaeth Thomas Jones ar ôl 1789, pan etifeddodd ystad y teulu ym Mhencerrig, a bu’n byw fel gŵr bonheddig am weddill ei oes.

  1. Penry Williams

The Bay of Naples Seen from the Scalinata Petraio

The Bay of Naples Seen from the Scalinata Petraio 1830s

Penry Williams (1802–1885)

Merthyr Tydfil Leisure Trust

Er mai Cymro oedd  Penry Williams (1802–1885), treuliodd y rhan fwyaf o’i oes fel oedolyn yn Rhufain ar ôl symud yno yn 1827. Am gyfnod o hanner canrif, roedd ei stiwdio yn Rhufain yn atyniad i ymwelwyr o Loegr. Roedd mewn perthynas gyda’i gyd-Gymro, y cerflunydd John Gibson, a bu farw yn Rhufain, y Ddinas Dragwyddol, yn 1885.

  1. Christopher Williams

The Investiture of the Prince of Wales, 1911

The Investiture of the Prince of Wales, 1911 1911

Christopher Williams (1873–1934)

The Caernarfon Royal Town Council Collection

Ganed Christopher Williams (1873–1934) ym Maesteg. Roedd ei dad yn awyddus iddo fod yn feddyg, ond ar ôl i’r mab ddod ar draws Perseus and Andromeda gan Frederic Leighton yn Oriel Gelf Walker, Lerpwl, pan oedd yn 19 oed, rhoddodd ei fryd ar fod yn artist.

Yn ogystal â chynhyrchu nifer o dirluniau celfydd o Gymru a gwledydd Ewropeaidd eraill, bu hefyd yn peintio golygfeydd allan o’r Mabinogion. Cafodd ei gomisiynu i greu portreadau o fawrion y genedl, o’r teulu brenhinol i’r Prif Weinidog o Gymru, David Lloyd George (yn wir, fe beintiodd dri darlun ohono ef!). Disgrifiwyd Williams gan Lloyd George fel 'un o’r artistiaid mwyaf talentog a gynhyrchwyd yng Nghymru erioed.'

  1. Gwen John

Self-Portrait

Self-Portrait 1902

Gwen John (1876–1939)

Tate

Mae Gwen John (1876–1939) yn aml wedi cael ei hanwybyddu’n annheg a’i chuddio yng nghysgod ei brawd ieuengaf, Augustus, ond dros y blynyddoedd diwethaf mae ei henw da wedi blodeuo. Mae’r hunan-bortread hwn yn drawiadol oherwydd defnydd yr artist o liw, ac am y modd y mae John wedi ei gwneud ei hun yn ynysig, gan efallai adlewyrchu ei theimladau ynglŷn â’r byd celf, a oedd ar y pryd yn cael ei ddominyddu i raddau helaeth gan ddynion.

  1. Augustus John

Dylan Thomas (1914–1953)

Dylan Thomas (1914–1953) 1937–1938

Augustus Edwin John (1878–1961)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Augustus John (1878–1961) oedd brawd iau Gwen John. Ac yntau’n cael ei ganmol a’i ddathlu drwy gydol ei fywyd, ef oedd yr ymgorfforiad perffaith o’r artist bohemaidd anwadal. Efallai bod hyn wedi tarddu’n wreiddiol o ddamwain a gafodd pan anafodd ei ben; gallai’r anaf fod wedi newid ei bersonoliaeth – a’i arddull artistig hefyd, o bosib. Caiff ei gofio’n bennaf am ei bortreadau (mae’r un uchod yn bortread o’r bardd Dylan Thomas), ac mae bron i 300 o’i weithiau mewn casgliadau cyhoeddus yn y DU.

  1. Margaret Sidney Davies

A Cornfield

A Cornfield

Margaret Sidney Davies (1884–1963)

Glynn Vivian Art Gallery

Roedd Margaret Sidney Davies (1884–1963) yn gasglwr gweithiau celf ac yn noddwr y celfyddydau. Ynghyd â’i chwaer Gwendoline, casglodd lawer enghraifft gain o gelf Argraffiadol a chelf yr ugeinfed ganrif, ac ar ôl marwolaeth y ddwy gadawyd y rhain yn eu hewyllysiau i Amgueddfa Cymru. Cafodd eu cartref, Gregynog Hall, hefyd ei gyflwyno’n rhodd i Brifysgol Cymru, a gallwch weld y gweithiau celf sy’n dal i fod yn Gregynog ar Art UK. A hithau wedi ei hysbrydoli gan Van Gogh, peintiodd Davies ei hymateb ei hun i’w ddarlun ef, Sunflowers.

 

  1. Brenda Chamberlain

Self Portrait on Garnedd Dafydd

Self Portrait on Garnedd Dafydd 1938

Brenda Chamberlain (1912–1971)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Yn ogystal â bod yn artist, roedd Brenda Chamberlain (1912–1971) hefyd yn fardd a nofelydd. Enillodd y ddwy Wobr Aur gyntaf erioed i’w cyflwyno gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn y categori Celfyddyd Gain. Bu’n briod am gyfnod byr gyda John Petts, artist o Gymro. Mae’r hunan-bortread trawiadol hwn yn ein hatgoffa o gyfansoddiad paentiadau cyfnod y Dadeni, gyda’r osgo wyneb-llawn a’r dirwedd niwlog yn y cefndir.

  1. Will Roberts

Farm at Cimla

Farm at Cimla 1962

Will Roberts (1907–2000)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Artist Argraffiadol oedd Will Roberts (1907–2000); cafodd ei eni yn Rhiwabon, sir Ddinbych, cyn symud i Gastell-nedd ym Morgannwg yn 1918. Yn 1945, cyfarfu Roberts â Josef Herman, artist o Wlad Pwyl a oedd yn byw yn y dref gyfagos, sef Ystradgynlais. Câi Roberts ei ddylanwadu gan waith Herman a chan ei gymuned leol, gan beintio darluniau o weithwyr diwydiannol a ffermwyr, ynghyd â golygfeydd domestig o fywyd teuluol. Yn 1962, enillodd y paentiad hwn, Farm at Cimla, Wobr Byng-Stamper am baentiad o dirlun, gyda Syr Kenneth Clark yn beirniadu. Roedd Will Roberts yn aelod o’r Grŵp 56 Cymru, oedd â’r nod o godi proffil celf fodern Gymreig.

  1. Kyffin Williams

The Way to the Cottages

The Way to the Cottages 1990–2006

Kyffin Williams (1918–2006)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Artist a gwneuthurwr printiau oedd Kyffin Williams (1918–2006); roedd yn adnabyddus am ei ddarluniau o dirluniau ysgithrog ac o fywyd ffermwyr yng Nghymru. Ac yntau’n cael ei gydnabod fel un o artistiaid Cymreig mwyaf dylanwadol  yr ugeinfed ganrif, roedd ei ddull anghonfensiynol o ddefnyddio paent, a’i arddull unigryw gyda chyllell-balet, yn gwneud ei weithiau’n adnabyddus ar unwaith. Gallwch brynu nifer o brintiau Kyffin Williams yn siop Art UK.

  1. Joan Elizabeth Baker

The Last Rose

The Last Rose 1997

Joan Elizabeth Baker (1922–2017)

University of South Wales Art Collection Museum

Bu Joan Elizabeth Baker (1922–2017) yn rhoi gwersi peintio yng Ngholeg Celf Caerdydd o 1945 hyd 1983 – hi oedd y fenyw gyntaf i redeg adran gelf fawr yng Nghymru. Er iddi gymryd rhan mewn rhai sioeau grŵp, anaml y byddai’n arddangos ei gwaith, gan ganolbwyntio’n bennaf ar ddysgu. Ymhlith ei disgyblion roedd Ernest Zobole. Ar ôl iddi ymddeol o’i gyrfa fel athrawes, parhaodd i beintio hyd ei marwolaeth yn 2017, yn 94 oed.

 

  1. Ernest Zobole

Painting and Subject Matter No. 5

Painting and Subject Matter No. 5

Ernest Zobole (1927–1999)

Rhondda Heritage Park

Ganed Ernest Zobole (1927–1999) ym mhentref Ystrad yn 1927, i deulu o fewnfudwyr o’r Eidal oedd wedi symud i Gymru yn 1910. Treuliodd bum mlynedd yn derbyn hyfforddiant yng Ngholeg Celf Caerdydd, lle cafodd ei addysgu gan Joan Elizabeth Baker. Roedd yn trafod celf yn aml gyda phump o’i gyd-fyfyrwyr wrth iddynt gymudo o’r cymoedd, a byddai pobl yn cyfeirio atynt fel Grŵp y Rhondda. Roedd Zobole’n enwog am ei ddehongliadau lliwgar o fywyd bob dydd sy’n herio syniadau confensiynol am realiti ac ymddangosiad.

  1. Gwilym Prichard

Mynydd Parys

Mynydd Parys

Gwilym Prichard (1931–2015)

Oriel Môn

Peintiwr tirluniau oedd Gwilym Prichard (1931–2015). Yn aml mae yna ansawdd tri-dimensiwn i’w ddehongliadau dramatig a lliwgar o dirluniau yng Nghymru, gan fynegi llawenydd am gyfoeth a phrydferthwch ei wlad enedigol. Roedd yn briod â’i gyd-artist Claudia Williams.

  1. Peter Prendergast

View from Bethesda

View from Bethesda 1974

Peter Prendergast (1946–2007)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Roedd Peter Prendergast (1946–2007) yn arbenigwr arall ar y tirlun (efallai nad yw’n syndod fod Cymru wedi cynhyrchu nifer fawr o artistiaid tirlun rhagorol, gan fod y fath brydferthwch naturiol o’u cwmpas i’w hysbrydoli!). Enillodd wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1975 a 1977. Disgrifiwyd ef gan y Chwaer Wendy Beckett fel ‘lliwiwr gwych a meistr ar ffurf'. Mae ei weithiau’n Fynegiadol – bron yn Giwbaidd – ac, fel Will Roberts, roedd yn aelod o’r Grŵp 56 Cymru.

  1. Cherry Pickles

My Sullen Art: Self Portrait as Dylan Thomas

My Sullen Art: Self Portrait as Dylan Thomas 2011

Cherry Pickles (b.1950)

The Ruth Borchard Collection

Ganed Cherry Pickles ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 1950; dilynodd lwybr anarferol i mewn i fyd celf, gan raddio mewn mathemateg cyn mynd ymlaen i astudio peintio yn Chelsea a’r Slade School of Fine Art. Bu’n addysgu mewn nifer o ysgolion celf, yn cynnwys Canterbury a Falmouth, a bu’n uwch-ddarlithydd yng Nghaerdydd. Mae ei hunan-bortread fel Dylan Thomas yn creu hanfod y bardd o Gymru. Mae’r darlun yn rhan o gyfres o chwe hunan-bortread sy’n adlewyrchu ei hedmygedd o’r rhyddid i ‘fyw eu bywydau’ a roddir i artistiaid gwrywaidd – her deimladwy i’r canfyddiad traddodiadol o artistiaid benywaidd.

 

  1. Shani Rhys James

Overall

Overall 1993

Shani Rhys James (b.1953)

BBC

Artist yw Shani Rhys James (g.1953) sydd wedi ei lleoli yn Llangadfan, Powys. Er iddi gael ei geni ym Melbourne, Awstralia, i dad o Gymru a mam o Awstralia, mae hi wedi byw yng Nghymru ers 1984. A hithau’n un o artistiaid byw mwyaf arwyddocaol Cymru, enillodd Wobr Agored Aberystwyth yn 1992, Gwobr Agored Mostyn, Gwobr Aur yr Eisteddfod Genedlaethol, Gwobr Gelf yr Hunting Observer (1993), a’r ail wobr yn y BP National Portrait Award. Hi oedd Artist Gweledol y Flwyddyn BBC Cymru 1994. Mae’r darlun hwn yn rhan o gasgliad BBC Cymru Wales, ac fe’i prynwyd yn 1993.

Andrew Shore, Pennaeth Cynnwys gydag Art UK